pwy all faethu?
Mae pob plentyn yn unigryw, yn ogystal â'r gofal sydd ei angen arnyn nhw. Dewch i weld a allech chi fod yn rhiant maeth da i blentyn yng Ngheredigion.
pwy all faethucydweithio i adeiladu gwell dyfodol i blant lleol
Croeso i Maethu Cymru Ceredigion.
Rydyn ni’n helpu plant yn yr ardal leol i greu dyfodol gwell.
Mae bod yn ofalwr maeth yn brofiad sy’n newid bywydau ac mae plant Ceredigion angen teuluoedd lleol am bob math o resymau – o leoliadau tymor byr i rai tymor hwy.
Allech chi ein helpu ni? Gallai un cam bach i chi olygu newid mawr a chadarnhaol i blant yn eich ardal.
Ydych chi’n meddwl y gallech chi helpu gyda maethu yng Ngheredigion ac ydych chi eisiau dysgu mwy? Yna darllenwch am y broses o fod yn rhiant maeth, a sut i gymryd y camau cyntaf ar y daith.
Mae maethu’n her a bydd angen ymrwymiad, ond mae’r manteision yn enfawr.
Pryd bynnag neu sut bynnag y mae ein hangen ni arnoch chi, rydyn ni yma i helpu. Mae cefnogaeth ar gael bob amser. Beth rydyn ni’n ei gynnig.
Mae maethu yng ngheredigion yn haws nag y byddech yn ei feddwl, a gallwch ddechrau arni heddiw.