ffyrdd i maethu

pwy all faethu

pwy all faethu yng ngheredigion?

Mae plant i gyd yn wahanol, ac mae’r rhieni maeth sydd eu hangen arnyn nhw’n wahanol hefyd. Dyna pam rydyn ni yng Ngheredigion yn croesawu gofalwyr maeth o bob oed.

Rydyn ni’n dathlu amrywiaeth ac yn syml, rydyn ni’n gofyn: allwch chi wneud gwahaniaeth? Ac, ydych chi eisiau gwneud gwahaniaeth? Ein cenhadaeth yw tyfu’r gymuned faethu gyda phobl o bob cefndir.

mythau maethu: gwahaniaethu rhwng ffaith a ffuglen

Yma ym Maethu Cymru Ceredigion, rydyn ni’n credu fod profiad, gwybodaeth a gallu yn bwysicach nag unrhyw beth arall. Mae’r holl nodweddion personol sy’n eich gwneud chi’n unigryw yn bethau rydyn ni’n eu dathlu – dydyn nhw ddim rhwystrau i faethu.

Mae ein rhwydwaith yn y gymuned leol wastad ar gael i ddarparu cefnogaeth a hyfforddiant, pryd bynnag y bydd ei angen arnoch chi. P’un ai yw’n athro, yn weithiwr cymdeithasol, yn ofalwyr eraill neu’n deulu a ffrindiau, rydyn ni wedi ymrwymo i rannu profiad a gwybodaeth.

alla i faethu os ydw i’n gweithio’n llawn amser?

Mae gennyn ni ofalwyr gyda phob math o ymrwymiadau gwaith, p’un ai’n rhan amser neu’n amser llawn, a byddwn yn cytuno ar y lleoliadau sydd fwyaf addas i’r amser a’r ymrwymiad y gallwch eu cynnig.

Mae amserlen waith hyblyg yn angenrheidiol, felly mae gyrfa brysur yn gallu golygu rhywfaint o feddwl a chefnogaeth ychwanegol gan deulu a ffrindiau. O bosibl, gallech gynnig seibiant byr ar benwythnosau yn hytrach na lleoliadau tymor hir neu therapiwtig.

alla i fod yn ofalwr maeth os ydw i’n byw mewn llety rhent?

Rydyn ni’n gofyn eich bod chi’n gallu darparu cartref sefydlog i blentyn lle bydd yn teimlo’n ddiogel. Mae hyn yn cynnwys cartrefi sy’n eiddo i chi neu sy’n cael eu rhentu.
Os ydych chi’n teimlo’n ddiogel a hapus yn lle rydych chi’n byw, yna gallai plentyn maeth deimlo felly hefyd.

alla i faethu os oes gen i blant fy hun?

Mae byw gyda phlant eraill yn gallu bod yn brofiad gwerthfawr i blant maeth. Mae rhannu cartref gydag unigolion eraill o’r un oedran yn gallu eu helpu i wneud ffrindiau, dysgu sut i ofalu am eraill a sut i rannu, yn ogystal â sut i weithio fel tîm.

Yn yr un modd, dydy cael teulu a phrofiad o fagu plant ddim yn hanfodol er mwyn bod yn rhiant maeth. Mae oedolion heb blant hefyd yn gallu maethu yng Ngheredigion a byddwn wrth law gydag unrhyw hyfforddiant neu gefnogaeth y bydd eu hangen arnoch chi.

ydw i’n rhy hen i faethu?

Does dim terfyn oedran uchaf ffurfiol ar gyfer maethu. Os ydych chi’n 25 neu’n 65 oed, os hoffech chi faethu plentyn yng Ngheredigion, byddwch chi’n cael eich ystyried.

ydw i’n rhy ifanc i faethu?

Does dim terfyn oedran is ffurfiol ar gyfer maethu ac er bod profiad bywyd yn fantais fawr, dydy hyn ddim yn rheidrwydd. Rydyn ni’n cynnig yr un lefel o gefnogaeth a hyfforddiant i bob un o’n gofalwyr maeth.

Fodd bynnag, fel arfer, mae ein gofalwyr yn 21 oed a hŷn, ac mae ganddyn nhw’r gallu i ddarparu cyfundrefn gefnogi sefydlog a dibynadwy i blentyn.

a oes rhaid i gyplau sy’n maethu fod yn briod neu mewn partneriaeth sifil?

Dydy eich statws priodasol ddim yn effeithio ar eich gallu i ofalu am blentyn, felly dydy hwn ddim yn ffactor sy’n cael ei ystyried o ran ceisiadau maeth. Rydyn ni’n gofyn a allwch ddarparu amgylchedd sefydlog i helpu i fagu plentyn.

Felly, os ydych chi’n briod, yn sengl, yn canlyn, wedi ysgaru neu’n weddw, gallwch chi fod yn ofalwr maeth yng Ngheredigion.

alla i faethu os ydw i’n drawsryweddol?

Gallwch. Dydy eich rhyw neu rywedd ddim yn dylanwadu ar eich gallu i fagu plentyn, felly, beth bynnag yw eich hunaniaeth, bydd eich cais yn cael ei ystyried.

alla i faethu os ydw i’n hoyw?

Gallwch. Dydy eich cyfeiriadedd rhywiol ddim yn dylanwadu ar eich gallu i fagu plentyn, felly rydyn ni’n annog pob person LGBTQ+ i wneud cais.

alla i faethu os oes gen i gi neu gath?

Gallwch. Mae tyfu i fyny o amgylch anifeiliaid anwes yn gallu bod yn brofiad gwerth chweil i blentyn, gan ei ddysgu i garu a gofalu am rywun arall.

Oherwydd bod gan rai plant alergeddau neu eu bod yn ofni rhai anifeiliaid, bydd eich anifeiliaid anwes wastad yn cael eu cynnwys yn eich asesiad i sicrhau bod unrhyw blant sy’n cael eu rhoi yn eich gofal yn gyfforddus.

alla i faethu os ydw i’n ysmygu?

Er bod gan bob Awdurdod Lleol bolisïau gwahanol o ran ysmygu (gan gynnwys e- sigaréts), yng Ngheredigion fyddwch chi ddim yn gallu maethu plant o dan 5 oed os ydych chi’n ysmygu. Y peth pwysicaf yw bod yn onest o’r dechrau. Byddwn yn cynnig

arweiniad ar sut i roi’r gorau iddi os hoffech chi wneud hynny. Ym mhob achos, mae’n golygu dod o hyd i’r gyfatebiaeth iawn rhwng eich teulu chi â’r plant yn ein gofal.

alla i faethu os ydw i’n ddi-waith?

Gallwch. Os ydych chi’n gyflogedig, yn hunangyflogedig neu’n ddi-waith, fydd eich statws gweithio ddim yn eich atal rhag bod yn ofalwr maeth, gan dybio y gallwch chi ddarparu cartref diogel, sefydlog a chariadus. Pan fyddwch chi’n ymgeisio, byddwn ni’n gweithio gyda’n gilydd i wneud yn siŵr bod yr amser yn iawn i chi.

alla i faethu os nad oes gen i dŷ mawr?

Gallwch. Dydy maint eich cartref ddim yn effeithio ar eich cais i fod yn rhiant maeth yng Ngheredigion, ac ar hyn o bryd mae gennyn ni ofalwyr sy'n byw mewn amrywiaeth o dai – o fflatiau i dai sengl.

I fod yn rhiant maeth, mae angen ystafell sbâr arnoch chi lle gall plentyn deimlo’n gartrefol.

rhagor o wybodaeth am faethu

mathau o faethu

Mae sawl ffordd wahanol o wneud gwahaniaeth drwy faethu, o wyliau penwythnos i leoliadau tymor hir.

dysgu mwy

cwestiynau cyffredin

Oes gennych chi gwestiynau am y broses? Rydyn ni yma i helpu. Darllenwch yr atebion i’n Cwestiynau Cyffredin yma.

dysgu mwy

dod yn ofalwr maeth

cysylltwch

  • Cyngor Ceredigion yw'r rheolwr data ar gyfer yr wybodaeth bersonol rydych chi'n ei darparu ar y ffurflen hon. Bydd eich gwybodaeth yn cael ei defnyddio wrth i ni arfer ein hawdurdod swyddogol ac ni chaiff ei defnyddio at unrhyw ddibenion eraill. Ni fyddwn yn rhannu'ch data ag unrhyw drydydd parti oni bai fod y gyfraith yn gofyn neu'n caniatáu i ni wneud hynny. Mae cyfraith diogelu data'n disgrifio'r sail gyfreithiol ar gyfer prosesu eich data yn ôl yr angen er mwyn cyflawni tasg gyhoeddus. Am fwy o wybodaeth am sut mae Cyngor Ceredigion yn defnyddio'ch data personol, gan gynnwys eich hawliau fel testun data, gweler ein hysbysiad preifatrwydd.