sut mae'n gweithio

y broses

y broses

Felly, rydych chi’n ystyried bod yn rhiant maeth? Cyn i chi godi’r ffôn neu anfon yr e- bost cyntaf, mae’n bwysig gwybod beth i’w ddisgwyl a sut mae’r broses ymgeisio’n gweithio.

Family of four wearing winter hats and jackets, walking in the hills in Ceredigion

y cam cyntaf

Cysylltwch â ni.

Y cam cyntaf yw’r cam hawsaf, ond hefyd y pwysicaf. Mae’n nodi cychwyn eich taith faethu, ac mae hynny’n rhywbeth i fod yn gyffrous yn ei gylch.

Family of four wearing winter hats and jackets, standing outside a house in Ceredigion

yr ymweliad cartref

Ar ôl i chi rannu eich diddordeb mewn maethu yng Ngheredigion, byddwn ni’n cysylltu â chi i drefnu ymweliad â’ch cartref – neu alwad fideo efallai. Byddwn ni’n darparu llawer o wybodaeth am faethu ac yn eich helpu i wybod beth i’w ddisgwyl.

Byddwn ni’n gofyn ychydig o gwestiynau i chi, a chewch chi gyfle i ofyn unrhyw beth sydd ar eich meddwl. Bydd yn sgwrs anffurfiol er mwyn i ni ddod i’ch adnabod chi’n well. Rydyn ni eisiau sgwrsio amdanoch chi, eich teulu, eich cartref a’ch cymhellion, oherwydd dyma sut rydyn ni’n dechrau meithrin ein perthynas. Byddwn ni hefyd wrth law i ddarparu unrhyw wybodaeth sydd ei hangen arnoch.

Family of four wearing winter hats and jackets, walking in the hills in Ceredigion

yr hyfforddiant

Mae cam cyntaf eich hyfforddiant a’ch datblygiad yn ymwneud â rhoi cyflwyniad i chi ar faethu, a dyna pam rydyn ni’n ei alw’n “Paratoi i faethu”. Mae’n eich dysgu am yr agweddau pwysig ar faethu ac yn eich helpu i wybod beth i’w ddisgwyl. Mae hefyd yn gyfle i chi gwrdd â gofalwyr maeth newydd eraill ar yr un cam o’u taith. Mae’n cael ei gynnal dros ychydig ddyddiau, neu gyda’r nos, ac mae’n gyflwyniad cwbl anffurfiol i bopeth y gallwch chi edrych ymlaen ato.

Family of four wearing winter hats and jackets, walking in the hills in Ceredigion

yr asesiad

Y cam nesaf yw’r cam asesu.

Er gwaethaf yr enw, dim prawf yw hwn, ond cyfle i ni weld sut mae eich teulu’n gweithio. Mae hefyd yn gyfle i chi ofyn rhagor o gwestiynau, ac i ni ddeall cryfderau a gwendidau eich uned deuluol yn well.

Yna, byddwch chi’n cwrdd ag un o’n gweithwyr cymdeithasol medrus a chyfeillgar a fydd yn eich helpu i baratoi ar gyfer y manteision a’r heriau a ddaw i’ch rhan.

Family of four sat on a log on the beach in Ceredigion

y panel

Ar ôl i ni ddysgu popeth amdanoch chi, ac ar ôl i ni ateb eich holl gwestiynau, bydd yr asesiad yn dod i ben a bydd panel yn dod at ei gilydd. Bydd y grŵp hwn o weithwyr gofal cymdeithasol a phobl annibynnol yn ystyried yr holl wybodaeth a gasglwyd ac yn gwneud rhai argymhellion.

Bydd y panel yn awgrymu’r ffordd orau o fwrw ymlaen â phob darpar riant maeth. Byddan nhw’n gwneud argymhelliad ynghylch eich cymeradwyo yn unol â'r wybodaeth a gasglwyd yn eich asesiad, ac yn rhoi cyngor ar y math o leoliad neu blentyn a fyddai fwyaf addas i'ch teulu.

Family of four wearing winter hats and jackets, walking in the hills in Ceredigion

y cytundeb gofal maeth

Unwaith y bydd y panel maethu wedi gwneud ei argymhellion, bydd y cytundeb gofal maeth yn cael ei anfon atoch chi. Bydd hwn yn amlinellu beth mae bod yn ofalwr maeth yn ei olygu, y cyfrifoldebau a’r manteision sy’n dod gyda’r swydd, yn ogystal â’r gefnogaeth, yr hyfforddiant a’r arweiniad sydd ar gael gennyn ni fel eich rhwydwaith.

Family of four wearing winter hats and jackets, walking in the hills in Ceredigion

ydych chi’n barod i gymryd y cam cyntaf?