pam maethu gyda ni?
cefnogaeth a manteision
cyllid a lwfansau
Fel gofalwr maeth gyda’ch tîm Maethu Cymru Ceredigion, byddwch chi’n derbyn lwfansau ariannol hael. Mae’r rhain yn seiliedig ar nifer o ffactorau fel y math o faethu rydych chi’n ei wneud, faint o blant rydych chi’n eu maethu, ac am ba hyd.
Er enghraifft, ar hyn o bryd, mae gofalwyr maeth yng Ngheredigion yn derbyn rhwng £9,932 a £18,200 y flwyddyn am bob plentyn maen nhw’n ei faethu.
manteision eraill
Mae mwy o fanteision i fod yn ofalwr maeth nag y byddech chi’n ei feddwl. Yn ogystal â’r gefnogaeth a’r lwfansau y soniwyd amdanyn nhw eisoes, yng Ngheredigion, byddwch hefyd yn cael y canlynol:
- Lwfansau ychwanegol ar ben-blwyddi a gwyliau crefyddol.
- Lwfans gwasanaeth parhaus.
- Aelodaeth o gynllun CADW.
- Lwfansau hyfforddiant a hyfforddiant parhaus ar ôl cymeradwyo.
ymrwymiad cenedlaethol maethu cymru
Mae pob un o’r 22 Awdurdod Lleol sy’n rhan o Maethu Cymru wedi llofnodi ein Hymrwymiad Cenedlaethol. Mae hyn yn golygu bod pob gofalwr maeth yng Nghymru yn gallu mwynhau pecyn cytunedig o hyfforddiant, cefnogaeth a manteision.
Felly, os byddwch chi’n penderfynu bod yn ofalwr maeth yng Ngheredigion, byddwch chi’n elwa o’r canlynol:

un tîm
Byddwch chi’n rhan annatod o’n tîm. Tîm o weithwyr proffesiynol a gofalwyr sy’n gweithio gyda’i gilydd ac sydd wastad yn gwerthfawrogi ac yn parchu ei gilydd.
Rydyn ni’n ymdrechu i feithrin cysylltiadau cryf a thrwy ymuno â ni, byddwch chi’n meithrin cysylltiadau gyda’r rhai sy’n bennaf gyfrifol am y plant sy’n derbyn gofal gan ofalwyr maeth yng Nghymru. Gyda’n gilydd gallwn ni greu’r dyfodol gorau posibl i’r holl blant rydyn ni’n gofalu amdanyn nhw, a’u teuluoedd maeth.

dysgu a datblygu
Ein nod yw creu dyfodol gwell i blant, a rhan o hyn yw sicrhau bod ein rhieni maeth yn cael cyfleoedd rheolaidd i dyfu a dysgu, er mwyn bod y gorau y gallan nhw fod.
Mae ein hymrwymiad yn golygu fframwaith a gwasanaethau cyson ar gyfer datblygu ar draws Cymru. Fel rhan o’ch hyfforddiant gofal maeth yng Ngheredigion, byddwch chi’n cael yr holl offer a chanllawiau sydd eu hangen arnoch i ddiwallu anghenion y plant yn eich gofal, ac i deimlo’n hyderus, yn abl ac yn hapus yn gwneud hynny.
Mae pob rhiant maeth gyda Maethu Cymru Ceredigion yn cael cofnod dysgu personol unigol a chynllun datblygu. Bydd y rhain yn cofnodi unrhyw gyrsiau hyfforddi gofalwyr maeth yng Ngheredigion rydych wedi’u dilyn. Mae hefyd yn helpu i gydnabod taith gofalwr, amlinellu sgiliau trosglwyddadwy newydd sydd wedi cael eu meistroli, a helpu i gynllunio ar gyfer y dyfodol.

cefnogaeth
Mae bod yn un tîm mawr yn golygu dydych chi byth ar eich pen eich hun. Mae rhywun wastad wrth law i’ch cefnogi a’ch annog, i rannu cyngor neu i fod yn glust i wrando. Meddyliwch amdanon ni fel eich tîm Maethu Cymru Ceredigion – eich rhwydwaith.
Bydd eich cysylltiad agosaf yn debygol o fod gyda’ch gweithiwr cymdeithasol. Mae ein Gweithwyr Cymdeithasol Goruchwyliol yn weithwyr proffesiynol medrus a phrofiadol, ac maen nhw wrth law i chi, eich teulu a’ch rhwydwaith cyfan os oes angen.
Y tu hwnt i’ch gweithiwr cymdeithasol, mae cymorth proffesiynol ar gael 24/7. Felly, rydyn ni yma i chi, beth bynnag sydd ei angen arnoch, pryd bynnag y mae ei angen arnoch.
Rydyn ni hefyd yn annog ein rhieni maeth i gael mynediad at ein grwpiau cefnogi gan fod y rhain yn eich galluogi i gwrdd â gofalwyr maeth eraill yn yr ardal leol. Gallwch chi sgwrsio, gwrando a rhannu profiadau. Mae llawer o aelodau ein grwpiau yn mynd ymlaen i fod yn ffrindiau da.
Ble bynnag rydych chi’n byw yng Nghymru, mae cefnogaeth gan gymheiriaid ar gael ac mae’n gallu gwneud gwahaniaeth enfawr. P’un ai ydych chi’n gwpl neu’n berson sengl, yn gofalu am frodyr a chwiorydd neu’n cynnig gofal therapiwtig, mae gennyn ni gymuned o bobl sy’n deall.

y gymuned faethu
Pan fyddwch chi’n ymuno â Maethu Cymru, byddwn ni hefyd yn talu i chi fod yn aelod o’r Rhwydwaith Maethu (TFN) a Chymdeithas Maethu a Mabwysiadu (AFA) Cymru. Mae’r rhain yn sefydliadau maethu arbenigol sy’n cynnig cefnogaeth annibynnol, cyngor preifat, arweiniad a llu o fanteision ychwanegol.
Y tu hwnt i grwpiau lleol a’ch tîm cefnogi uniongyrchol, byddwch chi hefyd yn cael eich gwahodd i ddigwyddiadau rheolaidd ac i gymryd rhan mewn gweithgareddau sy’n ceisio dod â theuluoedd maeth yn nes at ei gilydd. Maen nhw’n llawer o hwyl, ac yn brofiad gwych i greu ffrindiau ac atgofion. Maen nhw’n ein hatgoffa o ba mor fawr a chroesawgar yw’r gymuned faethu yng Ngheredigion.

llunio’r dyfodol
Er bod y daith a ddaeth â ni i’r pwynt hwn yn bwysig, allwn ni ddim newid y gorffennol, felly rydyn ni’n canolbwyntio ar y presennol a’r dyfodol. Mae bod yn ofalwr maeth yn golygu y gallwch chwarae rhan enfawr yn yr hyn y mae hyn yn ei olygu i blentyn yn eich gofal.
Rydyn ni’n dathlu pob eiliad gyda’n gilydd ac yn gwerthfawrogi eich barn a’ch mewnbwn: ar lefel leol, ranbarthol a chenedlaethol. Rydyn ni’n awyddus i annog adborth, felly byddwch chi wastad yn cael eich gwahodd i ymgynghori a dylanwadu ar ddyfodol maethu yng Nghymru. Hefyd, byddwch chi’n cael yr wybodaeth ddiweddaraf am newyddion a newidiadau.