ffyrdd o faethu

mathau o faethu

mathau o ofal maeth

Does unman yn debyg i gartref. Mae’n fwy na phedair wal yn unig. Mae’n lle i deimlo’n ddiogel, i deimlo cariad a chefnogaeth, ac rydyn ni’n credu bod pob plentyn yn haeddu hyn.

Mae maethu’n gallu helpu i wireddu hyn i blant yn eich ardal leol sydd ddim yn gallu byw gyda’u teuluoedd, boed yn unigolion neu’n frodyr neu chwiorydd.

Mae pob plentyn yn wahanol, ac mae eu hanghenion maethu’n wahanol hefyd. Felly, boed yn aros dros nos, yn wyliau am wythnos neu’n lleoliad tymor hwy, gallwch chi wneud gwahaniaeth mawr drwy fod yn rhiant maeth.

gofal maeth tymor byr

Mae gofal maeth tymor byr yn rhoi lle diogel i blant aros pan fydd ei angen arnyn nhw fwyaf. Boed am oriau, dyddiau, wythnosau neu fisoedd, mae’r gofal dros dro hwn weithiau o ganlyniad i newid sydyn mewn amgylchiadau, felly mae’n gallu digwydd ar fyr rybudd. Ar adegau eraill, efallai mai dyma’r cam cyntaf ar daith newydd plentyn. Beth bynnag, mae’r paru’n cael ei wneud yn ofalus ac maen nhw wastad yn ystyried beth sydd orau i chi a’r plentyn.

Er bod y lleoliadau hyn yn rhai tymor byr, maen nhw’n gallu gwneud gwahaniaeth enfawr i fywyd plentyn, gan fod ein gofalwyr yno pan nad oes neb arall.

Y tu hwnt i ddarparu lle i aros, bydd gofalwyr maeth tymor byr yng Ngheredigion yn gweithio’n agos gyda’n tîm i helpu i ddiffinio taith y plentyn yn y tymor hir, boed hynny i deulu maeth arall, yn ôl at ei deulu, neu i gael ei fabwysiadu.

gofal maeth tymor hir

Mae gofal maeth tymor hir yn golygu sefydlogrwydd. Mae rhai plant a phobl ifanc yn aros gyda’u gofalwr maeth nes eu bod nhw’n oedolion, yn gadael gofal a thu hwnt.

Felly, yn hytrach na lleoliad tymor hir, rydyn ni’n hoffi meddwl  am y daith fel ymuno â chartref a theulu newydd.

Dydy’r plant sydd angen gofal tymor hir yng Ngheredigion ddim yn gallu byw gartref gyda’u teulu am ryw reswm neu’i gilydd. Felly, ein nod yw darparu lleoliad arall iddyn nhw sy’n sefydlog ac yn ddiogel. Darparu sefydlogrwydd iddyn nhw. Mae’n golygu bod gan y plentyn deulu maeth sefydlog am oes.

mathau arbenigol o ofal maeth

Y tu hwnt i ofal maeth tymor byr a thymor hir, mae yna rai mathau arbenigol o leoliadau sy’n perthyn i’r ddau gategori hwn. Maen nhw’n cynnwys…

seibiant byr

Y tu hwnt i ofal maeth tymor byr a thymor hir, mae yna rai mathau arbenigol o leoliadau sy’n perthyn i’r ddau gategori hwn. Maen nhw’n cynnwys…

Mae angen seibiant ar bawb o bryd i’w gilydd, a dyna’n union y mae seibiant byr yn ceisio ei ddarparu: cyfle i gael ychydig ddyddiau oddi wrth y teulu, gan aros mewn lle diogel a chariadus.

Mae hefyd yn cael ei alw’n ‘ofal cymorth’, ac mae seibiant byr fel arfer yn digwydd dros y penwythnos neu am gwpl o wythnosau ar y tro. Maen nhw’n gallu bod yn ddigwyddiadau un-tro, neu fe fyddan nhw’n cael eu trefnu’n rheolaidd.

Mae gofalwyr seibiant byr yn dod yn rhan o deulu estynedig y plentyn, gan gynnig gwyliau o fywyd bob dydd a darparu cefnogaeth pan fydd ei hangen fwyaf.

rhiant a phlentyn

Dydy pob math o ofal ddim ar gyfer plant yn unig. Weithiau, mae rhieni a’u plant angen amgylchedd meithringar.

Mae lleoliad rhiant a phlentyn wedi’i gynllunio i ofalwyr profiadol drosglwyddo gwybodaeth a sgiliau i rieni ifanc sydd angen cymorth ac arweiniad. Mae ein gofalwyr yn cefnogi’r rhieni, gan eu helpu i ddysgu sut i ofalu am eu plentyn, mewn amgylchedd diogel a chefnogol.

Mae’n rôl ddeuol, sy’n arwain yn y pen draw at fwy o blant yn aros gyda’u rhieni a mwy o deuluoedd yn gallu aros gyda’i gilydd.

gofal therapiwtig

Mae gan rai plant anghenion emosiynol, ymddygiadol neu feddygol cymhleth ac mae angen lefel ychwanegol o ofal ‘therapiwtig’ arnyn nhw. Mae modd trefnu’r lleoliadau hyn gyda gofalwyr sydd â hyfforddiant, sgiliau ac amser ychwanegol. Os ydych chi

eisiau mynd ar drywydd bod yn ofalwr therapiwtig, byddwn yn eich arwain bob cam o’r ffordd.

dod yn ofalwr maeth

cysylltwch

  • Cyngor Ceredigion yw’r rheolwr data ar gyfer yr wybodaeth bersonol rydych chi’n ei darparu ar y ffurflen hon. Bydd eich gwybodaeth yn cael ei defnyddio wrth i ni arfer ein hawdurdod swyddogol ac ni chaiff ei defnyddio at unrhyw ddibenion eraill. Ni fyddwn yn rhannu’ch data ag unrhyw drydydd parti oni bai fod y gyfraith yn gofyn neu’n caniatáu i ni wneud hynny. Mae cyfraith diogelu data’n disgrifio’r sail gyfreithiol ar gyfer prosesu eich data yn ôl yr angen er mwyn cyflawni tasg gyhoeddus. Am fwy o wybodaeth am sut mae Cyngor Ceredigion yn defnyddio’ch data personol, gan gynnwys eich hawliau fel testun data, gweler ein hysbysiad preifatrwydd.