ffyrdd o maethu

eisoes yn maethu?

eisoes yn maethu?

Mae Maethu Cymru’n sefydliad nid-er-elw. Rydyn ni’n canolbwyntio ar bobl. Ein pwrpas yw cefnogi a grymuso gofalwyr maeth a chreu’r dyfodol disgleiriaf posibl ar gyfer plant lleol – dim gwneud elw.

Efallai eich bod eisoes yn maethu gyda ni. Os ydych chi’n maethu gyda’ch Awdurdod Lleol ar hyn o bryd, rydych chi eisoes yn rhan o Maethu Cymru. Rydych chi’n rhan o rwydwaith cenedlaethol o 22 o wasanaethau maethu Awdurdodau Lleol Cymru, pob un yn cydweithio tuag at yr un nod.

Os nad ydych yn maethu fel rhan o’ch Awdurdod Lleol, gallwch chi drosglwyddo aton ni. Mae’n hawdd! Dyma bopeth sydd angen i chi ei wybod.

sut i drosglwyddo

Y cyfan sydd angen i chi ei wneud yw cysylltu â’n tîm cyfeillgar yma ym Maethu Cymru Ceredigion a rhoi gwybod i ni am eich dymuniad i drosglwyddo aton ni.

Yna byddwn ni’n gweithio gyda chi i weld a ydyn ni’n cyfateb yn dda ac, os byddwch chi’n penderfynu gwneud hynny, byddwn ni’n eich cefnogi i drosglwyddo.

pam trosglwyddo

Cyfrifoldeb yr Awdurdod Lleol yw pob plentyn sydd angen gofalwr maeth. Felly, i lawer, mae’n gwneud synnwyr gweithio gyda system yr Awdurdod Lleol, sef Maethu Cymru.

Y tu hwnt i hyn, rydyn ni’n sefydliad nid-er-elw sydd â’r nod o helpu plant lleol i fyw bywydau hapus, diogel a sefydlog. Rydyn ni wedi ein lleoli yn y gymuned, felly mae gennyn ni ddealltwriaeth fanwl o’r heriau a allai godi, a’r holl wasanaethau cefnogi lleol sydd wrth law.

Felly, os ydych chi’n frwd dros helpu plant i gynnal ymdeimlad o hunaniaeth wrth adael cartref, drwy gynnal cysylltiadau â’r ardal maen nhw’n ei hadnabod, fe allen ni gael partneriaeth wych!

Rydyn ni yma i’ch helpu chi i wneud gwahaniaeth go iawn i fywydau pobl ifanc.

Hoffech chi ymuno â ni? Dewch i gael rhagor o wybodaeth am y manteision a’r gefnogaeth rydyn ni’n eu cynnig.

dod yn ofalwr maeth

cysylltwch

  • Cyngor Ceredigion yw'r rheolwr data ar gyfer yr wybodaeth bersonol rydych chi'n ei darparu ar y ffurflen hon. Bydd eich gwybodaeth yn cael ei defnyddio wrth i ni arfer ein hawdurdod swyddogol ac ni chaiff ei defnyddio at unrhyw ddibenion eraill. Ni fyddwn yn rhannu'ch data ag unrhyw drydydd parti oni bai fod y gyfraith yn gofyn neu'n caniatáu i ni wneud hynny. Mae cyfraith diogelu data'n disgrifio'r sail gyfreithiol ar gyfer prosesu eich data yn ôl yr angen er mwyn cyflawni tasg gyhoeddus. Am fwy o wybodaeth am sut mae Cyngor Ceredigion yn defnyddio'ch data personol, gan gynnwys eich hawliau fel testun data, gweler ein hysbysiad preifatrwydd.