pam maethu gyda ni?

pam ein dewis ni?

pam ein dewis ni?

Ein nod yw cadw plant yn eu hardal leol pan fydd hynny’n iawn iddyn nhw. Rydyn ni’n gweithio fel tîm i greu dyfodol gwell i blant, dim elw.

Rydyn ni’n rhan o’r rhwydwaith cenedlaethol o wasanaethau maethu Awdurdodau Lleol nid-er-elw ledled Cymru. Felly, rydyn ni’n gallu cynnig y gorau o’r ddau fyd:
cyllid cenedlaethol a phecyn safonol o hyfforddiant a manteision hael, ynghyd â llu o wasanaethau ac arbenigedd lleol ar lefel y gymuned.

Family of four wearing winter hats and jackets, walking in the hills in Ceredigion

ein cenhadaeth

Rydyn ni’n gweithio fel rhwydwaith i gefnogi ac annog oedolion o Gymru i fod yn ofalwyr maeth a helpu i wneud gwahaniaeth i fywydau plant yn eu cymuned leol. Yna, rydyn ni’n darparu cefnogaeth a hyfforddiant i helpu i leoli plant mewn cartref a theulu lle gallan nhw ffynnu.

Family of four sat on a log on the beach in Ceredigion

ein cefnogaeth

Os ydych chi’n chwilio am resymau dros fod yn rhiant maeth yng Ngheredigion, mae’r system gefnogi ragorol yn un ohonyn nhw.

Mae gan bob un o’n gofalwyr, a’r plant yn ein gofal, rwydwaith cefnogi lleol, felly fyddwch chi byth yn teimlo ar eich pen eich hun. Mae hyn yn cynnwys arbenigedd penodol gan weithwyr proffesiynol, cyngor a chyfeillgarwch gan ofalwyr eraill, a hyfforddiant gan ein tîm i’ch helpu ar eich taith faethu.

Family of four wearing winter hats and jackets, walking in the hills in Ceredigion

ein ffyrdd o weithio

Fel rhwydwaith, mae cysylltiadau a chydweithio wrth galon popeth rydyn ni’n ei wneud

Rydyn ni’n dod i’ch adnabod chi ac yn dod yn wyneb cyfarwydd, gan integreiddio â’ch bywyd i ddarparu’r gefnogaeth a’r hyfforddiant sydd eu hangen, ynghyd ag adnoddau ein rhwydwaith cenedlaethol.

Mae’n cymryd pentref i fagu plentyn, ac mae pob un yn wahanol. Felly, rydyn ni’n gweithio gyda’n tîm o ofalwyr maeth a’n staff i addasu, datblygu a darparu’r uned gymorth orau bosibl. Rydyn ni’n cefnogi ac yn datblygu doniau ein rhieni maeth, i’w helpu i wneud y gorau y gallan nhw.

Family of four wearing winter hats and jackets, walking in the hills in Ceredigion

eich dewis

Mae dewis Maethu Cymru Ceredigion yn benderfyniad i weithio gyda phobl go iawn sy’n gofalu yng nghalon eich cymuned. I ymuno â thîm, i ddysgu ac i wneud gwahaniaeth ym mywydau plant Cymru.

Cysylltwch â ni a chymryd y cam cyntaf heddiw.

Family of four wearing winter hats and jackets, walking in the hills in Ceredigion

dod yn ofalwr maeth