stori

kate a matt

kate a matt

Mae Kate a Matt wedi bod yn briod ers 15 mlynedd ac wedi bod yn maethu o’u cartref yn Aberporth, Ceredigion ers y tair blynedd diwethaf.

y teulu maeth

Mae’r pâr priod, Matt a Kate, wastad wedi canolbwyntio ar eu gyrfaoedd, ond roedden nhw bob amser yn dymuno cael teulu hefyd. 

“Yn anffodus, doedden ni ddim yn gallu cael plant ein hunain. Rydyn ni’n ffodus bod gennyn ni nithoedd a neiaint, a phlant bedydd sy’n ein galw ni’n Modryb Kate ac Ewythr Matt, ond dydy hynny ddim yr un fath yn union.”

Roedd y cwpl wedi meddwl ymchwilio i fabwysiadu cyn iddyn nhw benderfynu maethu. 

“Un diwrnod, tua thair blynedd yn ôl, roedden ni yng Ngŵyl Fwyd Bae Aberteifi a dyma ni’n gweld stondin am faethu ac yn cymryd taflen.”

“roedden ni’n edrych ymlaen yn arw at ddechrau arni”

Dechreuodd Matt a Kate ganolbwyntio ar faethu. Eu hymrwymiad. Roedd y cwpl wrth eu bodd yn cael cychwyn ar eu taith faethu ac roedden nhw’n dymuno croesawu eu plant maeth i’w cartref cyn gynted â phosibl.

 “Roedden ni’n teimlo’n gyffrous ac yn nerfus ar yr un pryd. Doedden ni ddim yn gwybod i ba gyfeiriad y byddai ein bywydau’n mynd nesaf. Doedden ni ddim yn gallu aros i ddechrau arni. Ychydig ar ôl hynny, fe wnaethon ni gwrdd â’n plentyn maeth hirdymor cyntaf, bachgen bach o’r enw Owen, ac yna flwyddyn yn ddiweddarach dyma Angharad yn ymuno â ni.”

Roedd Matt a Kate yn mwynhau’r heriau a’r manteision anhygoel ar ôl iddyn nhw ddechrau maethu, a chyn bo hir dechreuodd y cwpl sylwi ar y newidiadau yn eu plant maeth.

“Rwyf mor falch eu bod wedi dod atom ni, mae’n wych gweld y gwahaniaeth rydyn ni eisoes wedi’i wneud i’w bywydau.

“Dydy pethau ddim bob amser yn syml – ond mae’n werth chweil”

Roedd Kate a Matt yn naturiol yn eu rolau newydd. Roedden nhw’n dangos cydymdeimlad ac yn gofalu am eu dau blentyn maeth newydd, ac yn eu hannog i ffynnu.

“Maen nhw wedi mynd o fod yn eithaf gofidus ac yn encilgar, i ddatblygu’n gymeriadau bach hyderus erbyn hyn. Mae’r ddau yn gwneud yn dda iawn yn yr ysgol ac maen nhw’n mynd i glybiau ar ôl ysgol.

Peidiwch â’m camddeall, dydy popeth ddim yn syml – ddim o gwbl – ond mae’n werth yr holl amser ac ymdrech yn y byd i weld pa mor hapus ydyn nhw nawr. Rydyn ni mor falch ein bod wedi penderfynu maethu.”

Mae ein tîm lleol ni yma yng Ngheredigion wedi bod yn eu cefnogi drwy gydol yr amser. Ein cenhadaeth a’n pwrpas yw bod yno, sut bynnag y bydd pobl ein hangen ni.

“Fyddem ni ddim wedi gallu gwneud hyn heb y gefnogaeth gan dîm maethu ein Hawdurdod Lleol. Maen nhw’n gwneud i ni deimlo’n rhan o dîm. Rwy’n falch iawn ein bod wedi mynd i Ŵyl Fwyd Bae Aberteifi y diwrnod hwnnw dair blynedd yn ôl.”

hoffech chi ddechrau eich stori faethu eich hun?

Ydy darllen stori Kate a Matt wedi eich ysbrydoli chi i gychwyn ar eich taith eich hun i faethu? Bydden ni wrth ein bodd yn clywed gennych chi. Cysylltwch â ni heddiw, a gadewch i ni ddechrau arni.

hoffech chi ddechrau eich stori faethu eich hun?

Rhagor o wybodaeth am faethu a beth allai ei olygu i chi.

Mae ein llwyddiannau maethu yn seiliedig ar brofiadau bywyd go iawn Gofalwyr Maeth Awdurdodau Lleol yng Nghymru. Er mwyn diogelu eu preifatrwydd, a phreifatrwydd y plant a’r bobl ifanc y maent yn darparu gofal, cariad a chefnogaeth iddynt, mae’r holl enwau wedi’u newid ac mae actorion wedi camu i mewn i’n helpu i adrodd eu straeon anhygoel.

dod yn ofalwr maeth

cysylltwch

  • Cyngor Ceredigion yw'r rheolwr data ar gyfer yr wybodaeth bersonol rydych chi'n ei darparu ar y ffurflen hon. Bydd eich gwybodaeth yn cael ei defnyddio wrth i ni arfer ein hawdurdod swyddogol ac ni chaiff ei defnyddio at unrhyw ddibenion eraill. Ni fyddwn yn rhannu'ch data ag unrhyw drydydd parti oni bai fod y gyfraith yn gofyn neu'n caniatáu i ni wneud hynny. Mae cyfraith diogelu data'n disgrifio'r sail gyfreithiol ar gyfer prosesu eich data yn ôl yr angen er mwyn cyflawni tasg gyhoeddus. Am fwy o wybodaeth am sut mae Cyngor Ceredigion yn defnyddio'ch data personol, gan gynnwys eich hawliau fel testun data, gweler ein hysbysiad preifatrwydd.