sut mae'n gweithio

sut mae'n gweithio

sut mae’n gweithio

Os ydych chi’n ystyried bod yn ofalwr maeth, yna rydych chi wedi dod i'r lle iawn.
Yma, byddwn yn mynd drwy’r wybodaeth sylfaenol y mae angen ei gwybod, er mwyn i chi fod yn ymwybodol o beth rydyn ni’n ei wneud a sut rydyn ni’n helpu ein rhieni maeth i gefnogi plant lleol.

Family of four sat on a log on the beach in Ceredigion

gwell gyda’n gilydd

Maethu Cymru Ceredigion yw gwasanaeth maethu eich Awdurdod Lleol ac rydyn ni’n gweithio gyda’r gymuned leol i gadw plant yn yr ardaloedd maen nhw’n eu hadnabod ac yn eu caru.

Mae cefnogaeth wrth galon yr hyn rydyn ni’n ei wneud, p’un ai i’n staff, ein gofalwyr, neu’r plant yn ein gofal, ac rydyn ni’n cydweithio ac yn rhannu gwybodaeth gyda dros ugain o sefydliadau maethu nid-er-elw eraill sydd gan Awdurdodau Lleol yng Nghymru i wneud yn siŵr ein bod ni’n gwneud y gorau y gallwn ni yn yr hyn rydyn ni’n ei wneud.

Family of four wearing winter hats and jackets, walking in the hills in Ceredigion

beth sy'n ein gwneud ni'n wahanol?

Yn wahanol i’r rhan fwyaf o asiantaethau maethu sy’n gweithio ar eu pen eu hunain, rydyn ni’n rhan o system yr Awdurdod Lleol. Mae hyn yn golygu ein bod yn gweithio fel grŵp cenedlaethol o 22 o dimau ledled y wlad i helpu plant sy’n ymuno â’r system gofal maeth i aros yn yr ardaloedd lleol  maen nhw’n eu hadnabod ac yn eu caru.

Gyda’n cyllid cenedlaethol, sy’n cael ei ddosbarthu ar lefel gymunedol, ein nod yw cadw plant yn agos at eu ffrindiau, eu hysgolion, eu clybiau a’u cymunedau, hyd yn oed pan nad ydyn nhw yn byw gyda’u teuluoedd biolegol.

Mae deall, gofalu a gwneud yr hyn sydd orau i bob plentyn unigol wrth wraidd popeth rydyn ni’n ei wneud.

mwy o wybodaeth am maethu cymru ceredigion:

Family of four wearing winter hats and jackets, walking in the hills in Ceredigion

dod yn ofalwr maeth